Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Tachwedd 2013
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Tai
(Cymru)
1. Ar 18 Tachwedd 2013, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Tai (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 5 Tachwedd 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Ar 12 Tachwedd 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 21 Mawrth 2014.
4.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 23
Mai 2014, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.